....
In our feed business we follow and are audited against the Universal Feed Assurance Scheme (UFAS), an internationally recognised standard for raw material traceability, integrity, quality and hygiene of storage and transport.
..
Yn ein busnes bwyd, rydyn ni’n dilyn y Cynllun Sicrwydd Bwyd Anifeiliaid Byd-eang (UFAS), ac yn cael ein harchwilio yn ei erbyn. Safon yw hon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer olrhain, uniondeb, ansawdd a hylendid deunyddiau crai wrth eu storio a’u cludo.
....
Organic Farmers and Growers:
....
For our organic poultry feed manufacture, we have been registered Organic Farmers and Growers (OF&G) since 1996. Under this scheme we are regularly audited by the European Food Safety Inspection Service (EFSIS) which is accredited for EN45004 (Inspections) and EN45011 (Certification).
..
Rydyn ni wedi’n cofrestru â’r Organic Farmers and Growers (OF&G) ers 1996 ar gyfer gweithgynhyrchu ein bwyd dofednod organig. Mae’r Gwasanaeth Arolygu Diogelwch Bwyd Ewropeaidd (EFSIS) yn ein harchwilio’n rheolaidd dan y cynllun hwn sydd wedi’i achredu ar gyfer EN45004 (Archwilio) ac EN45011 (Ardystio).
....
British Egg Industrial Council
....
The British Egg Industrial Council (BEIC) was set up in 1986 to represent the UK egg industry. Its members are the 11 major organisations concerned with the egg industry. It is funded by subscriptions from egg packers and producers who produce more than 85% of the UK's eggs.
..
Cafodd y Cyngor Diwydiant Wyau Prydain (BEIC) ei sefydlu ym 1986 i gynrychioli diwydiant wyau y DU. Yr 11 sefydliad mawr sy’n ymwneud â’r diwydiant wyau yw ei aelodau. Tanysgrifiadau oddi wrth bacwyr a chynhyrchwyr wyau sy’n cynhyrchu mwy na 85% o wyau y DU sy’n ei ariannu.
....
The British Free Range Egg Producers Association
....
The association was established in 1991 and now has over 500 producer members who keep between them over 11.5million hens. The association represents free range producers at government level, on the Freedom Food Laying Hens standards group, NFU Poultry Board and the BFREPA Chairman is also an Officeholder and Director of the British Egg Industry Council (BEIC).
..
Sefydlwyd y gymdeithas ym 1991 ac mae ganddi bellach fwy na 500 o aelodau sy’n gynhyrchwyr sy’n cadw mwy nag 11.5 miliwn o ieir rhyngddyn nhw. Mae’r gymdeithas yn cynrychioli cynhyrchwyr maes ar lefel y llywodraeth, ar y grŵp safonau Dodwyr Bwyd Rhyddid, Bwrdd Dofednod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac mae Cadeirydd Cymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain (BFREPA) hefyd yn Ddeiliad swydd ac yn Gyfarwyddwr Cyngor Diwydiant Wyau Prydain (BEIC).
....
....Tel..Ffôn....: 01962 764 523
....Email..E-bost....: enquiries@hfandp.co.uk